Ein Ysgol
Our School
‘Does neb yn berffaith, mae pawb yn wahanol. Mae’r ffordd yn un droellog i bawb.’
Ysgol benodedig Gymraeg yw Ysgol Gymraeg Y Trallwng gyda 98 o ddisgyblion rhwng pedair ac un ar ddeg oed ar y gofrestr. Mae hon yn ysgol lwyddiannus sy’n cynnig profiadau diddorol ac unigryw i’r plant. Mae'r ysgol yn gosod safonau uchel, yn datblygu’r plant mewn awyrgylch ysgogol, gartrefol ac yn darparu cyfleoedd i’r plant gyrraedd eu llawn potensial. Mae’r disgyblion yn derbyn cyfleoedd i ddatblygu yn eu ffyrdd unigryw eu hunain boed hynny yn academaidd, ym myd y chwaraeon neu yn y celfyddydau.
Rhoddir pwyslais ar amrywiaeth o fedrau, ond Llythrennedd, Rhifedd a Digidol bob tro yn ganolog. Ceisir rhoi addysg sy’n datblygu’r plentyn cyfan a’i baratoi i fod yn ddysgwr gydol oes drwy fanteisio ar y Cwricwlwm Newydd i Gymru.
Ein nod yw addysgu’r disgyblion i fod yn ddwyieithog fel y gallant ddatblygu ym mhob maes. Pan dderbynir plant i’r ysgol fe’u meithrinir yn ofalus ar gyfer y sefyllfa Gymreig, a balchder pur ac ymdeimlad o berthyn sydd ym mhob disgybl erbyn diwedd eu cyfnod yma.
Ysgol hapus a chartrefol sydd yma sy’n ymgysylltu â’r gymuned ehangach ym mhob achos.
Mae croeso i chi ymweld â’r ysgol ar unrhyw adeg er mwyn i chi gael blas o'r awyrgylch a'r bwrlwm a chael y cyfle i drafod addysg a dyfodol eich plentyn.
Yn gywir,
Angharad Siân Davies
Pennaeth
'Nobody’s perfect, everybody is different. The route is a different one for all.’
Ysgol Gymraeg Y Trallwng is a Welsh medium Primary School with 98 pupils between the ages of four and eleven on role. This is a successful school, which sets high standards, and endeavours to develop children in a stimulating yet homely environment, providing opportunities for pupils to fulfil their potential. We strive to provide a balanced, enriched curriculum and a wide range of valuable and exciting experiences to develop each pupil as an individual and prepare him/her for their journey through life; academically, in sporting terms or through expressive arts.
The school focuses on a variety of skills; however, Literacy, Numeracy and Digital skills are always central. We try and prepare every pupil so they can become ethical, informed citizens by providing a diverse curriculum.
Our aim is to educate pupils so that they become fully bilingual and start their journey to become multilingual. When admitted to school they will be carefully nurtured into Welsh culture. Welsh is the official school language and pupils are prepared for this situation- by the end of their time in this school, every pupil is proud and will experience the overwhelming feeling of belonging.
The school is a homely and happy school and is an active and important part of the wider community.
You are welcome to visit the school at any time to get a taste of the atmosphere and have the opportunity to discuss your child's education and future.
Yours sincerely,
Angharad Siân Davies
Headteacher